Skip to main content

This job has expired

You will need to login before you can apply for a job.

Investigational Officer FBS (Farm Business Survey)

Employer
Aberystwyth University
Location
Aberystwyth, Wales
Salary
£29,619 - £35,333 per annum
Closing date
19 Jan 2023

View more

Investigational Officer FBS (Farm Business Survey)
Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences


18.25 hours per week
Fixed term to 30 September 2025
Grade 6: £29,619 - £35,333 per annum

To promote a flexible workforce, the University will consider applications from individuals seeking full time, part time, job share, or term time only working arrangements.

You will be a highly professional, determined individual joining a strong, committed team. Your main duties will involve the collection of physical and financial data from farmers participating in the Farm Business Survey (FBS) in Wales and the analysis of farm accounts. Participation in additional studies, analysis and the associated teaching and research activities of the Department may also be required including assisting with and responding to enquiries from internal and external sources (for example colleagues within IBERS and the University, banks, consultants & farmers), as requested by the FBS Director, and performing any other duties appropriate to the grade and role of the post holder. 

As a first-class communicator you will have an honours degree or an equivalent qualification in agriculture, agricultural business management, agricultural economics, or a related subject, significant previous and current practical farming experience at both operational and management level and a current driving licence. Where the applicant has excellent farm management experience, degrees in computer / administration and or business-related subjects may be considered.

Reporting directly to the FBS Director you will work within a highly motivated team and be able to demonstrate a thorough understanding of computing, office administration and farm accounts and a sound knowledge and familiarity with spreadsheets. Social science research experience and fluency in Welsh would be further advantages. 

Ref: IBERS.22.4589

Under the UK Government’s points-based system scheme, this role meets the criteria to be sponsored by Aberystwyth University (AU) for a Skilled Worker Route (SWR) application. Please see below for more information on the sponsorship process.

For information and to apply, please go to http://jobs.aber.ac.uk. We welcome applicants from all backgrounds and communities and in particular, those that are currently under-represented in our workforce. This includes but is not limited to Black, Asian and Minority Ethnic candidates and candidates with disabilities

We are a Bilingual Institution which complies with the Welsh Language Standards and is committed to Equal Opportunities. You are welcome to apply for any vacancy in Welsh or English and any application submitted will be treated equally.

Appointments are normally made within 4 - 8 weeks of the closing date. 

Further Particulars 

This job description is subject to review and amendment in the light of the changing needs of the University, to provide appropriate development opportunities and/or the addition of any other reasonable duties.

Main Duties & Responsibilities

The IO is responsible for the collection and reporting of financial and physical performance of different types of farms and undertaking data checking, analysis and reporting. The person appointed will work within the existing team of IOs and will be responsible to the Director of the FBS Unit. The main duties will be:

  • Recruit and arrange visits to farms in Wales to collect financial and physical data.
  • Process data for the calculation of income statistics, gross margins, cost of production and other performance indicators. {This analysis involves the use of Excel spreadsheet-based database systems, standardised across the UK.}
  • Report back and maintain on-going relationships with participating farmers.
  • Analysis of group data and feedback to farmers (with assistance from colleagues).
  • Assist in the production of annual reports and other publications.
  • To assist the FBS Director with research projects linked to the FBS, including acquisition and interpretation of FBS data.
  • Maintain an awareness of developments in policy and markets relating to farmers to enable interpretation of results in annual reports.
  • Provide interface with the FBS in Wales and UK. This entails, inter alia, representing the Department at agricultural and related shows, exhibitions, demonstrations and student recruitment fairs. IOs may also be involved in the planning of events, other publications, and the preparation of display material in conjunction with the Department’s academic and technical staff.
  • Other duties associated with the teaching, demonstrating and research activities of the Department as may be required. These duties are likely to be of two main kinds:
  • Assisting lecturing staff in workshops, practical classes and projects devoted to student farm visits, book-keeping, farm accounts analysis and farm management performance appraisal.
  • Participating in farming-related research projects undertaken by the Department as and when these arise and when FBS duties permit.
  • To undertake health and safety duties and responsibilities appropriate to the post.
  • To be committed to the University’s Equal Opportunities Diversity Policy, together with an understanding of how it operates within the responsibilities of the post.
  • To be committed to your own development and that of other staff through the effective use of the University’s Effective Contribution Scheme.
  • Any other reasonable duties requested commensurate with the grade of this role.

The Candidate(s)

As a first-class communicator and a good team player you will work within a highly motivated team and be able to demonstrate a thorough understanding of farm accounts, practical farm experience and farm management and demonstrate a good understanding of Microsoft Office and competence in the use of its suite of programmes and in particular with spreadsheets. Research experience and fluency in Welsh would be further advantages. Your main duties will involve the collection of physical and financial data from farmers participating in the FBS in Wales and the analysis of farm accounts. Participation in additional studies, analysis and the associated teaching and research activities of the Department may also be expected. The appointment will also include an administrative role including office management tasks. 

 

 

Swyddog Ymchwilio ABFf (Arolwg Busnes Fferm)
Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig


18.25 awr yr wythnos 
Cyfnod penodol tan 30 Medi 2025
Gradd 6: £29,619 - £35,333 y flwyddyn

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Byddwch yn unigolyn hynod broffesiynol a phenderfynol a fydd yn ymuno â thîm cryf ac ymroddedig. Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys casglu data ffisegol ac ariannol gan ffermwyr sy'n cymryd rhan yn yr Arolwg Busnes Fferm (ABFf) yng Nghymru, a dadansoddi cyfrifon fferm. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gymryd rhan mewn astudiaethau a gwaith dadansoddi ychwanegol a’r gweithgareddau addysgu ac ymchwil cysylltiedig yn yr Adran, gan gynnwys cynorthwyo gydag ymholiadau o ffynonellau mewnol ac allanol ac ymateb iddynt (er enghraifft cydweithwyr yn IBERS a'r Brifysgol, banciau, ymgynghorwyr a ffermwyr), ar gais Cyfarwyddwr yr ABFf, a chyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gymesur â gradd y swydd.

Byddwch yn gyfathrebwr ardderchog a bydd gennych radd anrhydedd neu gymhwyster cyfatebol mewn amaethyddiaeth, rheolaeth busnes amaethyddol, economeg amaethyddol, neu bwnc cysylltiedig, profiad blaenorol a chyfredol sylweddol o ffermio ar lefel weithredol a lefel reoli, a bydd gennych drwydded yrru gyfredol. Lle bo gan yr ymgeisydd brofiad ardderchog o reoli fferm, gellir ystyried graddau mewn cyfrifiadura / gweinyddiaeth a/neu bynciau sy'n gysylltiedig â busnes.

Gan adrodd yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr yr ABFf byddwch yn gweithio o fewn tîm uchel ei gymhelliant ac yn gallu dangos bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o gyfrifiadura, gweinyddiaeth swyddfa a chyfrifon fferm ynghyd â gwybodaeth gadarn a phrofiad o ddefnyddio taenlenni. Byddai profiad o ymgymryd ag ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol a rhuglder yn y Gymraeg yn fanteision pellach.

Cyf: IBERS.22.4589

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, mae'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR). I gael rhagor o wybodaeth am y broses noddi, gweler isod.

Am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i https://jobs.aber.ac.uk/cy/home.html. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig ac ymgeiswyr sydd ag anableddau. 

Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael eu trin yn gyfartal.

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau. 

Manylion Pellach 

Y mae’r disgrifiad swydd hwn yn amodol ar ei adolygu a’i ddiwygio yng ngoleuni anghenion cyfnewidiol y Brifysgol, i ddarparu cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau ychwanegol eraill. 

Prif Gyfrifoldebau a Dyletswyddau

Mae'r Swyddog Ymchwilio yn gyfrifol am gasglu data ar berfformiad ariannol a ffisegol gwahanol fathau o ffermydd a gwirio, dadansoddi a rhoi adroddiadau ar y data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn y tîm presennol o Swyddogion Ymchwilio a bydd yn atebol i Gyfarwyddwr Uned yr ABFf. Y prif ddyletswyddau fydd:

  • Recriwtio a threfnu ymweliadau â ffermydd yng Nghymru i gasglu data ariannol a ffisegol.
  • Prosesu data ar gyfer cyfrifo ystadegau incwm, elw gros, cost cynhyrchu a dangosyddion perfformiad eraill. {Mae'r gwaith dadansoddi hwn yn cynnwys defnyddio systemau cronfa ddata seiliedig ar daenlenni Excel, sydd wedi'u safoni ar draws y DU.}
  • Adrodd yn ôl a meithrin cysylltiadau parhaus â’r ffermwyr sy'n cymryd rhan.
  • Dadansoddi data grŵp a rhoi adborth i ffermwyr (gyda chymorth cydweithwyr).
  • Cynorthwyo i gynhyrchu adroddiadau blynyddol a chyhoeddiadau eraill.
  • Cynorthwyo Cyfarwyddwr yr ABFf â phrosiectau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r arolwg, gan gynnwys casglu a dehongli data’r arolwg.
  • Bod yn ymwybodol o’r datblygiadau o ran polisïau a marchnadoedd sy'n ymwneud â ffermwyr er mwyn gallu dehongli canlyniadau mewn adroddiadau blynyddol.
  • Darparu rhyngwyneb gyda'r ABFf yng Nghymru a'r DU. Mae hyn yn golygu, ymhlith pethau eraill, cynrychioli'r Adran mewn sioeau amaethyddol a sioeau cysylltiedig, arddangosfeydd, arddangosiadau a ffeiriau denu myfyrwyr. Gall Swyddogion Ymchwilio hefyd gyfrannu at y gwaith o gynllunio digwyddiadau, cyhoeddiadau eraill, a pharatoi deunyddiau arddangos ar y cyd â staff academaidd a thechnegol yr Adran.
  • Dyletswyddau eraill sy'n gysylltiedig â gweithgareddau addysgu, arddangos ac ymchwil yr Adran yn ôl y galw. Mae'r dyletswyddau hyn yn debygol o fod o ddau brif fath:
  • Cynorthwyo staff darlithio mewn gweithdai, dosbarthiadau ymarferol a phrosiectau sy'n ymroi i ymweliadau fferm ar gyfer myfyrwyr, cadw cyfrifon, dadansoddi cyfrifon fferm ac asesu perfformiad yng nghyswllt rheoli ffermydd.
  • Cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil sy'n ymwneud â ffermio a gynhelir gan yr Adran wrth iddynt godi a phan y bydd dyletswyddau’r ABFf yn caniatáu hynny.
  • Dyletswyddau eraill cysylltiedig yn ôl y galw.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n addas i'r swydd.
  • Ymrwymo i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, ynghyd â deall sut mae'n gweithredu o fewn cyfrifoldebau'r swydd.
  • Ymrwymo i'ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff trwy ddefnyddio trefn Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
  • Unrhyw ddyletswydd resymol a gofynnir sy'n gymesur â gradd y rôl.

Yr Ymgeisydd

Yn gyfathrebwr ardderchog ac yn chwaraewr tîm da byddwch yn gweithio o fewn tîm uchel ei gymhelliant a bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o gyfrifon fferm, profiad ymarferol o ffermio a rheoli fferm ynghyd â dealltwriaeth dda o Microsoft Office a chymhwysedd wrth ddefnyddio ei gyfres o raglenni, yn enwedig taenlenni. Byddai profiad o ymgymryd ag ymchwil a rhuglder yn y Gymraeg yn fanteision pellach. Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys casglu data ffisegol ac ariannol gan ffermwyr sy'n cymryd rhan yn yr Arolwg Busnes Fferm (ABFf) yng Nghymru a dadansoddi cyfrifon fferm. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i chi hefyd gymryd rhan mewn astudiaethau a gwaith dadansoddi ychwanegol, ynghyd â’r gweithgareddau dysgu ac ymchwil cysylltiedig yn yr Adran. Bydd y penodiad hefyd yn cynnwys swyddogaeth weinyddol gan gynnwys tasgau rheoli swyddfa.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert